Llythyrau 2026-27
Lawrlwythwch y llythyrau canlynol:
•
Trefniadau Gwasanaeth Diolchgarwch
•
Canllawiau CogUrdd
•
Ni fydd unrhyw ymarferion pêl-droed pellach ar ôl ysgol ar
ddydd Iau i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 am weddill y tymor.
Diolch i'r holl ddisgyblion sydd wedi mynychu'r sesiynau ac
wedi dangos ymrwymiad a brwdfrydedd drwy gydol y tymor.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
•
Nosweithiau Rhieni Ysgol Pen Barras: Bydd Nosweithiau
Rhieni Ysgol Pen Barras yn cael eu cynnal ar ôl ysgol ar yr
wythnos sy’n cychwyn Hydref 19eg. O ddydd Llun nesaf
ymlaen, (12/10/26) cysylltwch â swyddfa’r ysgol i drefnu
dyddiad ac amser i gyfarfod ag athro neu athrawes dosbarth
eich plentyn.
•
Trefniadau Cyngerdd 17/10/26
•
Holiadur Addysg Cyfrwng Cymraeg yn yr Uwchradd
•
Fel rhan o drefniadau pontio cynradd/uwchradd ysgolion
Clwstwr Rhuthun, rydym wedi trefnu i Mr Trefor Jones,
Pennaeth Ysgol Brynhyfryd, ddod i Ysgol Pen Barras i sgwrsio â
rhieni plant Blwyddyn 5 a 6 ynglŷn â'r ddarpariaeth a'r cynnig
cwricwlaidd sydd ar gael i'r plant wrth iddynt baratoi i
drosglwyddo i'r ysgol uwchradd. Bydd Mr Jones yn dod i'r ysgol
ar nos Fercher, Hydref 14eg am 5.30yp i roi cyflwyniad i rieni yn
neuadd Ysgol Pen Barras. Mae'r ymweliad hwn yn dilyn Noson
Agored Ysgol Brynhyfryd nos Iau yma, ac yn rhoi cyfle pellach i
rieni glywed am y ddarpariaeth yn yr ysgol ac i holi Mr Jones yn
dilyn y Noson Agored. Mawr hyderwn y bydd cynrychiolaeth
dda o rieni plant Blwyddyn 5 a 6 yn gallu bod yn bresennol yn y
sesiwn. At y diben hwn, ac er mwyn ein cynorthwyo gyda'r
trefniadau, a fyddech cystal â nodi ar yr holiadur isod os ydych
yn bwriadu dod i'r sesiwn? Ymatebion erbyn dydd Gwener,
Hydref 9fed os gwelwch yn dda.
https://forms.cloud.microsoft/e/sEBgcKHQt7
•
Maes Parcio'r Ysgol - cais i rieni: Fel Penaethiaid Ysgol Pen
Barras ac Ysgol Stryd y Rhos, hoffem atgoffa pawb yn garedig i
ddefnyddio’r mannau parcio priodol wrth ddefnyddio’r maes
parcio ar ein safle ysgolion yn Glasdir. Rydym wedi sylwi bod y
mannau parcio dynodedig i bobl anabl weithiau’n cael eu
defnyddio gan gerbydau nad ydynt yn arddangos Bathodyn
Glas. Yn anffodus, gall hyn atal deiliaid Bathodyn Glas sydd
angen y mannau hyn rhag gallu parcio’n agos at yr ysgol. Er
mwyn sicrhau tegwch, hygyrchedd a chynhwysiant, gofynnwn
yn garedig i bawb sicrhau bod yr wyth man parcio dynodedig i
bobl anabl yn cael eu cadw ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas yn
unig. Mae digon o leoedd parcio eraill ar gael ym maes parcio’r
ysgol. Er mwyn ein helpu i sicrhau bod y mannau hyn yn
parhau i fod ar gael i’r rhai sydd eu hangen, mae’n bosibl y
bydd aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgolion, o bryd i’w
gilydd, yn siarad â gyrwyr neu’n gwirio cerbydau sy’n
defnyddio’r mannau hyn. Gobeithiwn y bydd pawb yn deall mai
diben hyn yw sicrhau defnydd teg a phriodol o’r mannau parcio
dynodedig. Diolch am eich dealltwriaeth, eich ystyriaeth a’ch
cydweithrediad wrth ein helpu i sicrhau bod safle ein hysgolion
yn hygyrch i bawb.
•
Dechrau canu, dechrau canmol
•
Kickit Sports Hanner Tymor
•
Gair byr i’ch hysbysu y bydd Clwb Pêl-droed Blwyddyn 5 a 6 ar
ôl ysgol nos Iau yma yn cael ei ohirio. Mae hyn oherwydd ei
bod yn Noson Agored Ysgol Brynhyfryd yr un noson, ac rydym
yn gwerthfawrogi y bydd nifer o blant Blwyddyn 5 a 6 a’u rhieni
yn dymuno mynychu’r noson. Ymddiheurwn am unrhyw
anghyfleustra a diolch yn fawr am eich dealltwriaeth.
•
Blwyddyn 5 a 6: Hoffwn atgoffa plant blwyddyn 5 a 6 i beidio
dod ag ategolion a theganau i'r ysgol, rhag ofn iddyn nhw dorri
neu fynd ar goll.
•
Rydym yn deall bod rhieni yn derbyn llawer o wybodaeth a
gohebiaeth gan Ysgol Pen Barras, boed drwy e-bost, ap yr
ysgol, ein gwefan neu’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar,
mae ambell drafferth dechnegol wedi golygu nad yw rhai rhieni
wedi derbyn e-byst neu gylchlythyrau fel arfer. Er mwyn ei
gwneud mor hawdd â phosibl i bawb gael mynediad at
wybodaeth yr ysgol mewn un man, hoffem annog rhieni i
lawrlwytho ein ap swyddogol, sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
Mae’r ap ar gael drwy’r App Store (Apple) neu’r Play Store
(Android). Chwiliwch am Ysgol Pen Barras (Schoolsays.co.uk) a
byddwch yn gweld logo’r ysgol. Ar ôl lawrlwytho’r ap, bydd ein
holl gylchlythyrau ar gael yn gyfleus mewn un man. Gallwch
hefyd ddefnyddio’r ap i weld dyddiadau a digwyddiadau’r
tymor, gan gynnwys ymarferion, clybiau a gweithgareddau
eraill. Fel arbrawf, byddwn yn anfon ein cylchlythyr wythnosol
yfory drwy’r ap. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i ddefnyddio e-
bost, yn enwedig ar gyfer negeseuon sy’n ymwneud ag
unedau, dosbarthiadau neu weithgareddau penodol. Ein nod
yn syml yw hwyluso pethau i rieni a sicrhau bod gwybodaeth
bwysig ar gael yn gyflym ac yn hawdd. Bydd y cylchlythyr hefyd
yn parhau i fod ar gael ar ein gwefan:
https://www.ysgolpenbarras.cymru/ Byddwn yn adolygu’r
trefniadau maes o law ac yn croesawu barn rhieni ynghylch a
yw’r dull hwn yn ei gwneud yn haws i chi gael mynediad at
wybodaeth yr ysgol. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad
a’ch cefnogaeth.
•
Cystadleuaeth Addurno Plat Calan Gaeaf
•
Llythyr Staffio 28/9/2026
•
Rydym wedi cael cais gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr i rannu'r neges ganlynol gyda rhieni. Bydd tîm
brechu yn ymweld â'r ysgol ar 6 Tachwedd 2026 i gynnig
brechlyn ffliw y GIG. Cofiwch gwblhau'r ffurflenni caniatâd
erbyn 30 Hydref 2026 fan bellaf. Mae'r GIG yn argymell bod
plant oedran ysgol yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn er
mwyn helpu i'w hamddiffyn rhag salwch a all fod yn ddifrifol.
Hefyd- wrth i'r ysgol ail agor a gyda chymysgu plant, rydym
eisoes wedi gweld nifer o achosion absenoldeb salwch yn
barod ar ddechrau'r tymor. Profodd mwy na 200 o blant yn
bositif am y ffliw mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru y gaeaf
diwethaf. I lenwi'r ffurflen ar-lein ac i gael rhagor o wybodaeth
– gan gynnwys fideo cyflwyno i'r brechlyn ac animeiddiadau ar
gyfer eich plentyn – cliciwch yma neu ewch i
bcuhb.nhs.wales/SchoolFlu
•
Cystadleuaeth Rhedeg Traws Gwlad
•
CogUrdd 2027
•
TRAWSGWLAD - PWYSIG - Hoffem eich atgoffa i lenwi'r ffurflen
ganiatâd os ydych am i'ch plentyn gymryd rhan yn y
gystadleuaeth traws gwlad ddydd Mercher nesaf, Medi 23ain.
Ar hyn o bryd, mae nifer sylweddol o blant wedi mynegi
diddordeb mewn cymryd rhan, ond nid ydym wedi derbyn
ffurflenni caniatâd gan bawb. Atgoffwn rieni na fydd modd i
unrhyw ddisgybl gymryd rhan yn y digwyddiad heb ffurflen
ganiatâd wedi'i chwblhau ymlaen llaw. Mae'r linc i'r ffurflen
yma. Rydym hefyd yn chwilio am rieni/gwarcheidwaid i'n
cefnogi ar y bore drwy gerdded gyda'r plant o'r ysgol i'r clwb
rygbi ac yn ol. Os ydych ar gael i helpu, byddem yn
gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Cysylltwch â swyddfa'r
ysgol os ydych yn gallu gwirfoddoli. Diolch yn fawr am eich
cydweithrediad.
•
Defnydd Ysgol Pen Barras o gyfryngau cymdeithasol
•
Bydd Clwb Pêl droed ar ôl Ysgol yn cael ei gynnal i blant
Blwyddyn 5 a 6 bob dydd Iau tan hanner tymor.Bydd y sesiwn
cyntaf wythnos yma. (Dydd Iau, Medi 17eg- 3.30pm-4.00yp).
Bydd ymarfer ar wahân i’r bechgyn a’r merched gan y byddent
yn ymarfer tuag at gystadlaethau Pêl droed yr Urdd, sy’n cael ei
gynnal yn ystod y tymor. Gofynnwn i rieni drefnu nôl eu plant
o’r brif dderbynfa am 4yh os gwelwch yn dda. Caiff sesiynau’r
bechgyn eu cynnal gan Mr Wynne Davies, Mr Arfon Thomas a
Mr Phillips gyda’r hyfforddiant i’r merched yn cael eu harwain
gan Miss Mabli Fitzgerald a Miss Elen Jones. Bydd ymarferion
pêl droed cymysg i blant Blwyddyn 4 yn cael eu cynnal o fewn
yr wythnosau nesaf (Manylion i ddilyn).
•
Llythyr Llau Pen
•
Ffeithiau Llau Pen
•
Gwasanaeth fferylliaeth GIG Cymru ar gyfer oedolion a phlant
Cymru
•
Cylchlythyr 10/9/26
•
Cynhelir Cystadleuaeth Rhedeg Traws Gwlad Cymunedau
Bywiog Sir Ddinbych ddydd Mercher, 23ain Medi yng Nghlwb
Rygbi Rhuthun. Mae'r gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion
Blwyddyn 3, 4, 5 a 6. Bydd plant Blwyddyn 3 a 4 yn rhedeg 1km
a phlant Blwyddyn 5 a 6 yn rhedeg 1.5km. Os hoffai eich
plentyn gymryd rhan, llenwch y ffurflen ganiatâd drwy'r ddolen
yma os gwelwch yn dda.
•
Trefniadau Clwb ar ol Ysgol: Hoffwn roi rhag-hysbysiad i rieni
y bydd Clwb Ôl-ysgol Ysgol Pen Barras ar gau ar y dyddiadau
canlynol yn ystod y tymor:
Dydd Iau, 22 Hydref – o ganlyniad i Ddisgo Calan Gaeaf y
Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.
Dydd Iau, 26 Tachwedd – o ganlyniad i Ffair Nadolig y
Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.
Bydd y Clwb Brecwest ar agor fel arfer ar y dyddiau yma.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
•
Llythyr i Rieni Blwyddyn 5 a 6
•
Aelodaeth yr Urdd 2026-27
•
Llythyr Croeso Bl. 3 a 4
•
Cylchlythyr 3/9/2026
•
Dyddiadau tymor 2026-27
•
Trefniadau diwedd dydd Blwyddyn 5 a 6: Os hoffech i’ch
plentyn gerdded adref o’r ysgol rhaid i ni dderbyn y ffurflen
caniatad Forms yma. Mae hyn yn cynnwys cerdded i’r maes
parcio neu’r cae pel-droed.
•
Cylchlythyr 16/7/2026
•
Cefnogaeth i deuluoedd - Dwr Cymru
•
Rhaglen Tekkers
•
Cylchlythyr 10/7/26
•
Cylchlythyr 3/7/2026
•
Clwb ar ôl Ysgol mis Medi 2026
•
Gweler neges gan Mr Huw Hilditch-Roberts, Cadeirydd y Corff
Llywodraethol yn dilyn cyhoeddiad ein Adroddiad ESTYN yn
ddiweddar.
•
Adroddiad 2024/25 Blynyddol i Rieni
•
Dyddiadau Pwysig 2025/26
•
Prosbectws 2025/26
Ysgol Penbarras © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs
Cysylltu
Ysgol Pen Barras
Ffordd Glasdir,
Rhuthun,
LL15 1QQ.
01824 704129
Pennaeth: Mr Dyfan Phillips
swyddfa@penbarras.cymru